Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Hydref 2021
Amser:
11.08 -
14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12441
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Siân Gwenllian AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Catherine McKeag (Swyddog) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft
1.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. Oherwydd yr amserlenni adrodd,
cytunodd yr Aelodau i drafod y gwelliannau terfynol yn
electronig.
2 Blaenoriaethau i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - strategaeth ar gyfer ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
2.1 Trafododd y Pwyllgor y strategaeth ar gyfer ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.
2.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal grwpiau ffocws wyneb yn wyneb gyda phlant mewn ysgolion cynradd a chwrdd â phobl ifanc o wahanol fudiadau ieuenctid o bob rhan o Gymru.
3 Trafod dull cynllunio strategol y Pwyllgor
3.1 Trafododd y Pwyllgor y dull cynllunio strategol.
3.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal y sesiynau cynllunio strategol dros ddau gyfarfod, gyda’r cyntaf o'r rhain yn cael ei gynnal ddydd Llun 18 Hydref, a’r cyfarfod arall yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd fel bod y Pwyllgor yn gallu ystyried yr ymgysylltiad â phlant a phobl ifanc.
3.3 Nododd yr Aelodau yr hyn yr hoffent ganolbwyntio arno yn ystod y sesiynau.
4 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
4.1 Bu’r
Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.
5 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
5.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones AS, nid oedd dirprwy ar ei rhan.
5.3 Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant.
6 Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
6.1 Aeth y Pwyllgor ati i graffu ar y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidogion.
6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:
- yr adroddiadau manwl y mae’r Grŵp Llywio Gwasanaethau Hanfodol wedi’u llunio mewn perthynas â meysydd penodol i nodi i ba raddau y cafodd gwasanaethau hanfodol eu cynnal yn ystod y pandemig;
- nodyn yn cynnwys data am y gwahanol fathau o raglenni brechu ar gyfer plant a phobl ifanc;
6.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i roi mwy o fanylion am y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella iechyd plant ar draws ystod o faterion iechyd cyhoeddus.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Nodwyd y
papurau.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod cyfan ar 18 Hydref
8.1 Derbyniwyd y
cynnig.
9 Trafod y dystiolaeth o’r sesiwn graffu gyda’r Gweinidogion
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol.